A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop...
show moreMae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu?
Yn y podlediad hwn bydd Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn trafod sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn. Meddai Elin, “ Mae gennym ni gyfle anhygoel i fod yn flaengar…. mae angen i ni beidio bod yn ofnus ond yn fwy uchelgeisiol.”
Mae Dyfan, sydd wedi bod yn gweithio gydag arloeswyr blaengar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn datblygu sustem cofnodion cleifion ddi bapur, yn credu bod angen addysgu pawb am botensial y dechnoleg hon er mwyn datrys problemau gofal iechyd. “Mae’r gwasanaeth iechyd wedi dechrau yng Nghymru a nawr mae modd i’r gwasanaeth iechyd digidol hefyd gychwyn yng Nghymru- da ni o’r maint iawn a’r gennym ni’r modd i hynny ddigwydd.” Mae Elin yr un mor bositif. “Rwy’n teimlo’n gyffrous a hyderus bod gobaith mawr yma.”
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Information
Author | hello@lshubwales.com |
Organization | hello@lshubwales.com |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments