Alcohol
![Alcohol](https://d3wo5wojvuv7l.cloudfront.net/t_square_limited_480/images.spreaker.com/original/b3b935ff9be36fcc19ba4b6c5fc74ba5.jpg)
Sign up for free
Listen to this episode and many more. Enjoy the best podcasts on Spreaker!
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?” Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am...
show moreMae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol a’u perthynas efo alcohol heddiw - gwneud pethau dwl dan ddylanwad, am agweddau cymdeithas, am gydnabod fod problem. Am ddweud ‘Na’, ac am fod yn hapusach person o beidio yfed.
Cyflwyniadau (2:00)
Agweddau cymdeithas tuag at alcohol (8:30)
Stori Heledd a’i pherthynas gydag yfed alcohol (11:55)
Sara yn siarad am ei gwaith hi fel cwnselydd gyda myfyrwyr a phroblemau ymwneud ag alcohol (14:40)
Alcohol yn gyffur a stigma’r label ‘alcoholig’ (19:22)
Heledd yn siarad am benderfynu rhoi stop ar yfed a Ffion wedyn yn siarad am wneud cyfnodau sych (28:01)
Ffion yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u patrymau yfed (34:27)
Heledd yn trafod defnyddio alcohol fel masg a Ffion wedyn yn siarad am licio hi ei hun heb alcohol (37:49)
Information
Author | Bengo Media |
Website | - |
Tags |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company