Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Dyma bodlediad newydd sbon yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy...
show moreBwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn y podlediad hwn fe fyddwn yn trafod pwnc sy'n gynyddol ar y newyddion y dyddiau hyn sef iechyd meddwl pobl ifanc.
Mae llawer o drafod ar y ffactorau sy'n gallu effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a bwriad y podlediad hwn ydy agor cil y drws ar rai o'r ffactorau hynny.
Yn cyfrannu at y drafodaeth mae Dr Mair Edwards (Seicolegydd Clinigol) yng nghwmni Donna Dixon (Darlithydd ac Ymchwilydd yn Ysgol Addysg), Dr Ceryl Davies (Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd) ac Anwen Rhys Jones (Swyddog Ymchwil Ysgol Addysg) o Brifysgol Bangor. Cadeirydd y drafodaeth ydy Rhian Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Mwynhewch y gwrando!
Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments