Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny...
show moreBwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Recordiwyd y podlediad hwn o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a hynny ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor.
Mae'r newyddion bod ysgol feddygol newydd sbon ar fin cael ei sefydlu yma Mangor yn gyffrous iawn a mawr ydy'r edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ym Medi 2024.
Ar gyfer y podlediad hwn, dan gadeiryddiaeth Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth, Prifysgol Bangor, cafwyd trafodaeth ddifyr yng nghwmni Dr Berwyn Owen (Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol, Penygroes), Dr Nia Hughes (Cyfarwyddwyr Meddygol Gofal Cychwynnol - Gorllewin), Dr Robin Parry (meddyg teulu), Dr Marc Edwards (Meddyg teulu ac Uwch ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Iechyd, Prifysgol Bangor), a Sion O’Brien a Jasmine Blight (darpar feddygon).
Mwynhewch y gwrando!
Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments