Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999
Apr 21, 2024 ·
32m 51s
![Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999](https://d3wo5wojvuv7l.cloudfront.net/t_square_limited_480/images.spreaker.com/original/4e9001b1de238f059918a92c59cdc11c.jpg)
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65...
show more
Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65 oed yn cwympo pob blwyddyn, mae’r straen ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol.
Mae’r podlediad yma yn trafod prosiect cydweithredol sy'n anelu at leihau galwadau ambiwlans pan fo rhywun yn cael codwm yn y cartref yng Nghymru. Esbonia Eleri D’Arcy o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nodweddion a nodau y prosiect, gan bwysleisio effaith economaidd-gymdeithasol cwympo ar bobl hŷn. “Yn y bwrdd iechyd, rydym yn cydnabod bod codwm wedi bod yn broblem enfawr ers nifer o flynyddoedd,” meddai. “Bellach mae gennym dechnoleg newydd a all ein cefnogi i wneud penderfyniadau gwell a chefnogi pobl gartref am gyfnod hirach.”
Mae Demi Catterill o Grŵp Gofal ‘Simply Safe’ yn ymhelaethu ar eu gwaith a'r hyfforddiant a gynhaliwyd, gan nodi swyddogaeth yr ap iStumble yn y broses benderfynu.
Amy Jenkins o Gyngor Abertawe sy’n son am rôl y cyngor yn cefnogi'r prosiect a meithrin dulliau gofal amgen. Nodir cymorth y Grŵp cydweithredol Gofal Diogel am ddarparu strwythur a sicrhau cynnydd systematig, gyda chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau galwadau amhriodol.
Yn y bennod Gymraeg hon, actorion sy’n lleisio geiriau’r cyfrannwyr. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/a-local-collaboration-community-project-to-help-reduce-999-calls--59283960
show less

Information
Author | Improvement Cymru |
Website | - |
Tags |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company