Rhagnodi Cymdeithasol
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid y byd iechyd a gofal? Ydy cleifion Cymru yn elwa o’r arloesedd yma? Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y...
show morePan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y meddyg a’r claf yn edrych tu hwnt i’r symptomau meddygol ac yn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd.
Yn ôl Sara Thomas, ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n synnwyr cyffredin bod ni’n mynd at wraidd y broblem”.
Ar ôl trafod gyda’r claf, gall y doctor alw ar wasanaethau eraill, proffesiynol neu wirfoddol, er mwyn dod o hyd i ddatrysiad. “ Mae’n rhoi hyder i unigolion i wneud rhywbeth drostyn nhw’u hunain,” meddai Sara.
Gall hwn gynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel gwirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol, garddio, ac ystod o chwaraeon.
Yn y podlediad hwn mae Sara’n trafod y sefyllfa yng Nghymru a’i phrofiad yn arwain datblygiadau yn y maes i hwb gofal sylfaenol yng Nghwm Taf.
Fe glywn ni hefyd gan Syr Sam Everington arbenigwr ar ragnodi cymdeithasol. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Information
Author | hello@lshubwales.com |
Organization | hello@lshubwales.com |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments