Sioned Dafydd
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
"Fi mor mor ddiolchgar bo' fi'n siarad Cymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu...
show moreCroeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.
Yn y bennod yma mi wnes i sgwrsio hefo Sioned Dafydd, cyflwynydd a gohebydd i Sgorio ar S4C. Mae Sioned wedi cael profiadau anhygoel drwy weithio yn y byd darlledu gan gynnwys gohebu ar gemau dynion Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2022.
Mae Sioned yn sôn am pa mor ddiolchgar ydy hi ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg a sut mae medru'r iaith wedi ei helpu yn ei gyrfa. Mae hi hefyd yn sôn sut wnaeth hi a tîm cynhyrchu Sgorio gyd-weithio hefo Cymdeithas pêl-droed Cymru i adeiladu hyder Aaron Ramsey i wneud cyfweliadau yn Gymraeg.
Os wyt ti eisiau gyrfa yn y byd darlledu chwaraeon, dyma'r podlediad i chdi. Mwynha'r bennod!
Information
| Author | Y Pod Cyf. |
| Organization | Y Pod Cyf. |
| Website | - |
| Tags |
Copyright 2026 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments