Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau...
show moreYn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig.
Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar PPE, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu.
Dywed Pryderi: “ Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.”
Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-Sparc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19.
Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd.
“Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen,” meddai.
Gallwch ddarllen mwy am waith Pryderi ag M-Sparc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn ei flog yma (gellid lincio i blog Pryderi )
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Information
Author | hello@lshubwales.com |
Organization | hello@lshubwales.com |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments