![Podcast Cover](https://d3wo5wojvuv7l.cloudfront.net/t_square_limited_480/images.spreaker.com/original/14b8d171d4e2ef0ff743cab65524f77c.jpg)
Contacts
Info
Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig. O weithwyr gofal iechyd rheng...
show more
Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig.
O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei
hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19
wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad.
Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
show less

Datgloi: Straeon COVID o Gymru
Datgloi: Straeon COVID o Gymru
-
Gwersi bywyd yn sgil COVID: chwalu rhwystrau a chreu ysbytai maes, gyda Dr Meinir Jones a Dr Liza Thomas-Emrus
21 APR 2022 · Mae Meinir Jones, Meddyg Teulu ac Arweinydd Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Liza Thomas-Emrus, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwella Llesiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn ddwy gydweithwraig a chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu ysbytai maes yn ystod y pandemig – wrth iddyn nhw helpu i ddarparu gofal hanfodol i’r rhai mewn angen a thorri rhwystrau traddodiadol byrddau iechyd mewn cyfnod digynsail. Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda nhw am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau ar y rheng flaen yn ystod y cyfnod yma, a’r holl wersi gallwn ni i gyd eu dysgu o’r ddwy flynedd ddiwethaf. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch… -
Wrth galon ymateb COVID Cymru: uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei rôl allweddol, gyda Dr Eleri Davies MBE
18 APR 2022 · Mae gwestai heddiw yn un y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. I lawer ohonon ni, Dr Eleri Davies MBE oedd y brif ffynhonnell ar gyfer diweddariadau COVID Llywodraeth Cymru yn ystod llawer o’r pandemig. Yn y bennod yma, cafodd Dot sgwrs ddwys gyda Dr Eleri am ei siwrne i’r byd meddygaeth, ei rolau amrywiol a oedd yn ganolog i ymateb COVID Cymru, a sut roedd yn teimlo pan gafodd ei chydnabod gydag MBE am ei gwaith yn ystod y pandemig. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch… -
Llunio gyrfa annisgwyl yn 19 oed yn y cyfryngau, a hyn oll yng nghanol pandemig, gyda Mirain Iwerydd
13 APR 2022 · Mae Mirain Iwerydd yn seren newydd yng Nghymru. Yn 19 oed, hi yw cyflwynydd rhaglen y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2 ochr yn ochr â gwneud ei gradd prifysgol. Yn y bennod yma, bu Dot yn sgwrsio gyda Mirain i ddysgu beth yw ei phrofiad hi fel person ifanc yn byd mewn pandemig byd-eang, ac i glywed sut arweiniodd ei phrosiect personol unigryw yn ystod y cyfnod clo at ei gyrfa newydd yn y cyfryngau. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch… -
Serennu ar TikTok a gwneud cynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, gydag Ellis Lloyd Jones
10 APR 2022 · Digrifwr poblogaidd o Dreorci yw Ellis Lloyd Jones, sydd wedi cael miliynau o wylwyr ar ei sgetsys comedi ar TikTok, ac wedi ymddangos ar gyfres BBC Tri ‘Young, Welsh and Bossin’ it.’ Yn y bennod yma, bu Dot ac Ellis yn trafod y stori y tu ôl i’w lwyddiant aruthrol ar TikTok, dod i arfer â byw yn llygad y cyhoedd, ei waith diweddar fel llysgennad ar ymgyrch Diogelu Cymru, a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch… -
Arwain Cymru drwy’r pandemig gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
10 APR 2022 · Croeso i bodlediad newydd sbon Diogelu Cymru, ‘Datgloi: Straeon COVID o Gymru.’ O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol, yn y gyfres yma bydd y cyflwynydd teledu a radio Dot Davies yn clywed gan amrywiaeth o bobl nodedig ledled Cymru wrth i ni nodi dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf a myfyrio ar eu profiadau o’r pandemig. Mae gwestai heddiw yn un arbennig. Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn gyfrifol am arwain Cymru drwy’r pandemig a llywio’r wlad drwy gyfnod digynsail. Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda’r Prif Weinidog gan edrych y tu ôl i’r llen i weld sut llwyddodd Llywodraeth Cymru i reoli’r achosion o’r firws yn ôl yn 2020, manylion ei ‘ddiwrnod tywyllaf’, a’i falchder yn yr ymdeimlad o undod ledled y wlad yn y cyfnod heriol yma. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig. O weithwyr gofal iechyd rheng...
show more
Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig.
O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei
hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19
wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad.
Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
show less
O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei
hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19
wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad.
Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
Information
Author | Bengo Media |
Categories | Society & Culture , Health & Fitness , Mental Health |
Website | www.spreaker.com |
steve@bengomedia.com |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company