Contacts
Info
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur. Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes...
show more
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
show less

7 NOV 2024 · Stacey, Shirley...ond, ein Shelley ni!
Bydd rhai yn ei hadnabod fel Stacey o’r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm, bydd eraill wedi’i gweld yn ddiweddar ar lwyfannau Cymru yn y ddrama Shirley Valentine, bydd nifer ohonom yn gwrando arni ar Radio Cymru ar fore Sadwrn...gwestai’r bennod hon yw'r actores, y cyflwynydd, y cynghorydd a’r cynhyrchydd Shelley Rees.
Diolch i Ava a Mali am y sgwrsio a’r holi bywiog, cynnes yn y bennod hon.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari a’r gyfres deledu Pobl y Cwm yn dathlu eu pen-blwydd yn 50. Diolch i Shelley am ein helpu i ddathlu a chofnodi’r dwbl pwysig hwn!
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
21 OCT 2024 · Ein Mr Urdd a llawer mwy!
Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu.
Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran Gymraeg tan y flwyddyn 2021. Bu’n trefnu Eisteddfodau, teithiau, gweithgareddau, gigs a chyfleoedd di-ri i ieuenctid yr ysgol a’r rhanbarth gan feithrin eu cariad at Gymru a’r Gymraeg ac ennill parch disgyblion.
Eve a Lili-Mei sy’n arwain y sgwrsio a’r hel atgofion am daith iaith Jordan ac am y cyfleoedd brofwyd ganddyn nhw yng nghyfnod Jordan gyda’r Urdd.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
7 OCT 2024 · ‘I’r Gad!’ Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio clywed y gri hon ar hyd coridorau Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o gyn-benaethiaid Ysgol Llanhari, Mr Peter Griffiths.
Ymunodd Mr Griffiths â theulu Llanhari ym 1988 a bu’n bennaeth ar yr ysgol wrth iddi gamu i’r mileniwm. Yn Gymro i’r carn, yn gefnogwr rygbi brwd ac yn addysgwr ysbrydoledig.
Diolch i Elen ac Esmay am yr holi gofalus ac i Mr Griffiths am ymweld â’r ysgol a rhoi o’i amser i rannu ei brofiadau, ei straeon diddorol a’i angerdd dros Lanhari.
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
20 SEP 2024 · Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol.
Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988. Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd! Mrs Rapsey - nyrs yr ysgol, ysgrifenyddes y Tîm Arwain, gweinyddwraig o fri a’n ffrind dibynadwy ni oll.
Diolch i Carys a Gwenno am yr holi gofalus ac i Mrs Rapsey am roi o’i hamser i rannu ei phrofiadau a’r straeon diddorol.
Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
7 SEP 2024 · 50 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon, fe agorwyd y giatiau ac fe ddechreuodd Ysgol Gyfun Llanhari ddarparu addysg Gymraeg i ddisgyblion.
Mr Geraint Rees yw gwestai'r bennod hon. Un o ddisgyblion y criw cyntaf o ddisgyblion i dderbyn eu haddysg ar y safle ac yn yr ysgol newydd ym 1974 yw Geraint a chawn glywed hanes y diwrnod cyntaf a'i atgofion am ei addysg yn yr ysgol cyn iddo ddychwelyd yn athro am gyfnod.
Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
9 AUG 2024 · Sgwrs gyda'r Archdderwydd a chyn ddisgybl Ysgol Llanhari, Mererid Hopwood.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
8 AUG 2024 · Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur. Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes...
show more
Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
show less
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Categories | Society & Culture |
Website | llanhari.cymru |
cysylltu@ypod.cymru |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company