Iolo Roberts

Feb 17, 2025 · 53m 53s
Iolo Roberts
Description

Bu Mr Iolo Roberts yn aelod o staff yn yr Adran Ymarfer Corff yma yn Ysgol Llanhari ers 1991, yn Bennaeth Blwyddyn am 7 mlynedd ac yn Bennaeth Adran ers...

show more
Bu Mr Iolo Roberts yn aelod o staff yn yr Adran Ymarfer Corff yma yn Ysgol Llanhari ers 1991, yn Bennaeth Blwyddyn am 7 mlynedd ac yn Bennaeth Adran ers 2009.   

Bu’n hyfforddi timau mewn amryw o gampau ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion wella’u ffitrwydd drwy chwaraeon o bob math.  Mae’n siŵr ei fod wedi dysgu miloedd o ddisgyblion erbyn hyn!

O’r maes rygbi a’r cae pêl-droed, i drac athletau, o gwrt badmington i fatiau glas gymnasteg y Gampfa, o lwybrau beicio mynydd a thonau gwyllt y môr i lethrau serth mynyddoedd Cymru. 

Joseph a Samuel o Fl.13, dau o fyfyrwyr cwrs Safon Uwch Ymarfer Corff eleni, sydd yn mwynhau sgwrs yng nghwmni Mr Roberts. 

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol. 
show less
Information
Author Y Pod Cyf.
Organization Y Pod Cyf.
Website -
Tags

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Podcast Cover

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search