Mari George
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Bardd, awdures, golygydd...mae doniau geiriol di-ri gan ein gwestai yr wythnos hon. A glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y...
show moreA glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y bennod hon ac fe gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn iddi yn 2024!
Eleni, yn ogystal mae hi wedi rhyddhau pamffled o gerddi, ‘Rhaff’, a golygu cyfrol o gerddi sy’n ein tywys ar hyd Lwybr Arfordir Cymru - Cerddi’r Arfordir.
Mari George yw’r cyn-ddisgybl dawnus sydd yn sgwrsio gydag Eve yn y bennod hon, ac yn ogystal a holi Mari am ei bywyd mae Eve yn mwynhau holi Mari ambell gwestiwn a rhannu ei barn wedi iddi ddarllen ei nofel.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Information
| Author | Y Pod Cyf. |
| Organization | Y Pod Cyf. |
| Website | - |
| Tags |
Copyright 2026 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments